Rhennir dyletswyddau golygyddol tai cyhoeddi, yn fras, rhwng Golygydd Comisiynu, Golygydd Creadigol a Golygydd Copi. Yn y tai cyhoeddi mwyaf rhennir y swyddi hyn ymhellach yn ôl arbenigedd, ond bydd cwmnïau llai (fel a geir yng Nghymru at ei gilydd) yn gorfod cyfuno nifer o swyddogaethau ym mhob swydd, gan ychwanegu atynt gyfrifoldebau eraill hefyd, megis golygu lluniau a gwaith marchnata a hyrwyddo.
Golygydd Comisiynu/Golygydd Creadigol
Y Golygydd Comisiynu sy’n datblygu rhestr y cyhoeddwr trwy chwilio am awduron addas a dod o hyd i fylchau yn y farchnad. Goruchwyliant bob llyfr o adeg y comisiynu neu gyflwyno hyd at gyhoeddi. Er y byddant weithiau yn golygu testunau hefyd, y mae eu dyletswyddau craidd yn ymwneud yn fwy â chyfeiriad cyffredinol y wasg a safon ei chynnyrch. Maent yn cynnwys:
- dod o hyd i lyfrau a’u datblygu, trwy gynnal cysylltiadau ag awduron, asiantau a sefydliadau academaidd; ymweld â gwyliau llenyddol; dilyn hynt cystadlaethau ac eisteddfodau; adnabod gwaith addawol o blith teipysgrifau a dderbynnir yn ddigymell
- adnabod bylchau yn y ddarpariaeth, tueddiadau’r farchnad a newidiadau yn y galw am lyfrau
- argymell teitlau ar gyfer eu cyhoeddi yn ôl amryw o ffactorau, gan gynnwys: i ba raddau y maent yn gydnaws â rhestr gyhoeddi’r wasg, eu rhinweddau unigryw yn y farchnad, asesiad o’r awdur/gwaith dan sylw, ystyriaeth o weithiau sy’n cystadlu yn yr un maes, gwerthiant tebygol
- cysylltu â darllenwyr allanol
- amcangyfrif y costau a phennu’r pris
- rheoli cyllidebau; cadw ffrwyn ar y costau cynhyrchu
- negodi’r cytundeb/telerau’r comisiwn gyda’r awdur
- cydweithio’n agos â’r awdur ynglŷn â datblygu a newid y deipysgrif
- rhoi cyfarwyddiadau i ddylunwyr, darlunwyr, ffotograffwyr, prawfddarllenwyr, golygyddion copi, staff gwerthu, marchnata a chynhyrchu, a chydlynu cyfraniadau pawb
- llunio a rheoli amserlenni cynhyrchu
- cyfrannu at y cynllun marchnata; at gyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus ac at ymgyrchoedd marchnata uniongyrchol, etc.
- cymryd rhan mewn negodi gwerthu hawliau a chytundebau hawliau
- cynnig cyngor ar faterion yn ymwneud â’r gyfraith a chytundebau
- cynrychioli’r wasg mewn arddangosfeydd, ffeiriau a chynadleddau.
Golygydd Copi
Mae Golygyddion Copi yn gyfrifol am oruchwylio’n fanwl hynt pob llyfr, o dderbyn y deipysgrif hyd at ei chyhoeddi. Mewn tŷ cyhoeddi bychan, bydd hyn yn golygu ysgwyddo cyfrifoldeb am lu o orchwylion unigol. (Mae llyfr safonol Judith Butcher, Copy-Editing, yn rhestru mwy na 300 o’r rhain.) Gellir dosbarthu’r gorchwylion hyn yn fras fel a ganlyn:
Rheolaeth Gynhyrchu a Chyffredinol
- llunio amserlenni a rheoli cyllideb ar gyfer pob teitl mewn cydweithrediad â’r Golygydd Comisiynu
- cydweithio â’r awdur a’r cyflenwyr allanol (dylunydd, cysodydd, prawfddarllenydd, mynegeiydd, argraffwyr, rhwymwyr) ac eraill sy’n cyfrannu i’r prosiect er mwyn sicrhau y cedwir at yr amserlenni hyn
- cyfrannu at gynlluniau marchnata, gweithgareddau lansio, deunyddiau cyhoeddusrwydd, catalogau ar y we, archifau, etc.
Datblygu’r Deipysgrif a Golygu’r Testun
- sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ
- cydweithio â’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen, etc.
- marcio’r deipysgrif ar gyfer ei chysodi’n fewnol neu’n allanol (yn cynnwys, os nad oes dylunydd, yr holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen ynglŷn â wynebau teip, culhau, hierarchi, etc.)
- trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)
- trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant)
- chwilio am luniau a sicrhau caniatâd
- prawfddarllen, ar y cyd â’r awdur, gan wahaniaethu rhwng gwallau’r awdur a rhai’r prawfddarllenydd
- neu, fel arall, trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol
- comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr
- trefnu pastiadau ar gyfer llyfrau sy’n cynnwys llawer o luniau.
Mae swyddogaethau’r gwahanol olygyddion uchod yn aml yn gorgyffwrdd ac yn amrywio yn ôl maint a strwythur y tŷ cyhoeddi.
Cefnogaeth ariannol i swyddi golygyddol yng Nghymru
Cymraeg
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn rhoi cefnogaeth ariannol i chwech o gyhoeddwyr i gyflogi Golygyddion Comisiynu/Creadigol, sef Cyhoeddiadau Barddas, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg Gomer, Gwasg Gwynedd, Gwasg y Dref Wen a’r Lolfa. Dyma’r cyhoeddwyr sy’n derbyn Grant Rhaglen, sef cyllideb flynyddol ar gyfer cyhoeddi rhaglen o gyhoeddiadau, ac mae’r gefnogaeth wedi’i bwriadu ar gyfer gwaith ar y llyfrau sy’n rhan o’r rhaglen honno. Mae dyletswyddau’r golygyddion yn cynnwys comisiynu deunydd newydd, cydweithio ag awduron, a thrafod teipysgrifau (gan gynnwys golygu creadigol a thywys teipysgrifau trwy’r wasg). Mae eu cyfraniad tuag at ddatblygu rhaglen y cyhoeddwr a sicrhau bod y teitlau’n ymddangos yn brydlon yn allweddol.
Saesneg
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn rhoi cefnogaeth i bedwar cyhoeddwr refeniw, sef Gwasg Gomer, Honno, Parthian a Seren. Mae’r gyllideb flynyddol a roddir i’r cyhoeddwyr hyn yn cynnwys cefnogaeth i raglen gyhoeddi a chyfraniad at gostau swyddi, gan gynnwys swyddi golygyddol. Yn ogystal, rhoddir cefnogaeth ariannol i ddwy swydd olygyddol ran-amser mewn dwy wasg arall, sef Gwasg Carreg Gwalch a’r Lolfa.
Mae hefyd yn bosibl i gyhoeddwyr ofyn am gymorth i gyflogi golygyddion creadigol annibynnol i weithio ar deitlau unigol a ariannwyd o dan Gynllun Blaendaliadau/Comisiynau i Awduron Cyngor Llyfrau Cymru.
Ceir gwybodaeth am gynlluniau Cyngor Llyfrau Cymru wrth edrych ar www.cllc.org.uk
Gwasanaeth Golygyddol
Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn darparu gwasanaeth golygu copi a chywiro proflenni, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond yn y Gymraeg yn bennaf, i weisg yng Nghymru. Codir tâl ar y gweisg am y gwasanaeth hwn ond mae elfen o sybsidi i’r gwasanaeth.
Gwybodaeth Bellach
Ceir rhestrau llyfrau, manylion am hyfforddi, achredu ac aelodaeth cyrff proffesiynol, ynghyd â gwybodaeth arall i olygyddion a phrawfddarllenwyr, o’r ffynonellau canlynol:
Bookcareers.com, PO Box 1441, Ilford, Essex IG4 5GH. Tel. 020 8550 8023 www.bookcareers.com
The Publishing Training Centre at Book House, 45 East Hill, Wandsworth, Llundain SW18 2QZ. Tel. 020 8874 2718 www.train4publishing.co.uk
The Society for Editors and Proofreaders www.sfep.org.uk
Chapterhouse Publishing www.chapterhousepublishing.co.uk
Dyma rai o’r llawlyfrau safonol i Olygyddion Comisiynu a Golygyddion Copi:
Rhiannon Ifans, Y Golygiadur (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf. 2006)
Janet MacKenzie, Editor’s Companion (Cambridge University Press 2005)
Gill Davies, Book Commissioning and Acquisition, ail argraffiad (Routledge 2004)
Nicola Harris, Basic Editing: Text and Exercises (The Publishing Training Centre, 1991: dwy gyfrol)
Judith Butcher, Copy-editing, pedwerydd argraffiad (Cambridge University Press 2006)
Disgrifir gwaith golygyddion yn fwy manwl yn y ffynhonnell ganlynol:
Giles Clark, Inside Book Publishing, pedwerydd argraffiad (Routledge, 2008)
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010