Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN)

Welsh Books Council

Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN)

Mae Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN) yn cynnwys wyth rhifolyn ac fe’i defnyddir i adnabod teitlau cyfresi, gan gynnwys cyfresi electronig. Cyflawna’r un swyddogaeth ar gyfer cyfnodolion, cylchgronau, cyfnodolion electronig, cyfarwyddiaduron a gyhoeddir yn rheolaidd, adroddiadau blynyddol, papurau newydd, cyfresi monograff a chyhoeddiadau tebyg, ag a gyflawnir gan yr ISBN ym maes llyfrau. Nid yw’n adnabod rhifynnau unigol, ac nid yw’n newid o un rhifyn i’r nesaf. Y mae’n angenrheidiol ar gyfer pob cyhoeddiad cyfresol sydd â chod bar neu sy’n cael ei werthu trwy’r prif siopau; ond oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio bellach trwy gydol y gadwyn wybodaeth – gan lyfrgelloedd, asiantau tanysgrifio, ymchwilwyr a nifer gynyddol o siopau bach – y mae bron â bod yn anhepgor hefyd ar gyfer cyhoeddiadau llai.

Sylwer bod rhaid wrth ISSN ar gyfer:

  • CD-ROMau a disgetiau y bwriedir eu cyhoeddi’n rheolaidd
  • gwahanol argraffiadau cyfresi (e.e. yn ôl iaith neu ranbarth)
  • gwahanol fformatau (e.e. fersiynau print, CD-ROM ac ar-lein)
  • monograffau (printiedig neu electronig): rhaid cael ISSN yn ogystal ag ISBN

Ni roddir rhifau ISSN ar gyfer:

  • tudalennau ar y We y mae eu cynnwys yn gyfyngedig, yn bennaf, i ddolenni 
  • rhifynnau arbennig o gylchgronau
  • calendrau, dyddiaduron a phosteri

Gellir archebu rhifau ISSN oddi wrth:

ISSN UK Centre
The British Library
Boston Spa
Wetherby
West Yorkshire
LS23 7BQ                                                                                                                                

Ffôn 01937 546959
Ffacs 01937 546562
issn-uk@bl.uk
                                              
www.bl.uk/bibliographic/issn.html

Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010