Rhaid cael caniatâd er mwyn dyfynnu o weithiau sydd mewn hawlfraint, ac eithrio pan fernir bod confensiynau ‘delio’n deg’ yn berthnasol, a hefyd dan amgylchiadau penodol mewn llyfrgelloedd a sefydliadau addysgol, fel a ganlyn:
1. Dyfyniadau ‘at ddibenion beirniadu neu adolygu’. Rhaid cydnabod ffynhonnell pob dyfyniad ond, yn ôl cyngor y Society of Authors a’r Publishers Association, nid oes angen cael caniatâd os dyfynnir:
- un darn o ryddiaith o hyd at 400 gair
- cyfres o ddarnau rhyddiaith, lle nad yw’r cyfanswm yn fwy na 800 gair, a lle nad oes yr un o’r darnau’n fwy na 300 gair
- cyfanswm o 40 llinell o gerdd (yn un darn neu’n gyfres o ddarnau), ar yr amod nad yw hyn yn fwy na chwarter y gerdd gyfan.
Mae confensiynau ‘delio’n deg’ yn gofyn bod pob dyfyniad yn ymddangos yng nghyd-destun sylwebaeth ddilys, neu asesiad, neu ddehongliad neu ddeunydd priodol arall. Byddai blodeugerdd, hyd yn oed petai’n cydymffurfio â’r canllawiau uchod, yn cael ei hystyried yn ddefnydd masnachol o’r gweithiau a gynhwysid ac ni fyddai’n cwrdd â gofynion ‘delio’n deg’.
2. Copïau a wneir at ddibenion ymchwil bersonol. Mae hyn yn berthnasol i unigolion preifat yn unig: ni ellir copïo at ddibenion masnachol.
3. Adrodd ar faterion y dydd. (Nid yw hyn yn berthnasol i luniau.)
4. Defnydd damweiniol. Y mae’r eithriad hwn yn cyfeirio’n bennaf at dynnu lluniau a ffilmio ‘wrth fynd heibio’ yn y cyfryngau darlledu.
Ceir manylion llawn am yr eithriadau uchod (1.-4.) yn Adrannau 29-31 y Copyright Act 1988, sydd ar gael yn www.hmso.gov.uk/acts/acts1988/Ukpga_19880048_en_1.htm
5. Gwaith sy’n cael ei gopïo neu ei ddyfynnu i’w ddefnyddio mewn sefydliadau addysgol. Y mae’r eithriadau hyn yn rhai penodol a chyfyngedig: ceir manylion amdanynt yn Adrannau 32-36 y Copyright Act 1988, sydd ar gael yn www.hmso.gov.uk/acts/acts1988/Ukpga_19880048_en_1.htm
6. Gwaith sy’n cael ei gopïo mewn llyfrgelloedd. Disgrifir yr eithriadau perthnasol yn Adrannau 37-44 y Copyright Act 1988, sydd ar gael yn www.hmso.gov.uk/acts/acts1988/Ukpga_19880048_en_1.htm
Ym mhob achos arall, rhaid cael caniatâd lle bwriedir defnyddio darn ‘sylweddol’ o waith sydd mewn hawlfraint. Nid yw’r Ddeddf Hawlfraint yn diffinio’r gair ‘sylweddol’, ond cytunir ei fod yn cyfeirio nid at hyd y dyfyniad yn unig ond at ei natur hefyd. Oherwydd hyn, y mae’n ddoeth arfer pwyll a cheisio eglurhad gan y cyhoeddwr neu ddeiliad yr hawlfraint pan eir y tu allan i’r canllawiau penodol uchod.
Cyfrifoldeb yr awdur yw sicrhau caniatâd, gan amlaf, ac eithrio yn achos lluniau i’r clawr ac eitemau eraill a ddewisir gan y cyhoeddwr. Mae cytundebau cyhoeddi fel arfer yn cynnwys amod i’r perwyl hwn ac yn rhyddarbed y cyhoeddwr rhag tor-hawlfraint. Fodd bynnag, ni fydd hyn bob amser yn ddigon i ddiogelu’r cyhoeddwr mewn llys barn ac y mae dyletswydd ar y golygydd i sicrhau bod pob caniatâd wedi’i dderbyn.
Ceir gwybodaeth am y cwestiynau y mae’n rhaid eu gofyn a’r manylion y mae’n rhaid eu cynnwys wrth geisio am ganiatâd ar wefan y Society of Authors: www.societyofauthors.net ac yn www.writersservices.com/wps/s1_clearing_copyright.htm
Ceir enghreifftiau o lythyrau cais am ganiatâd ar wefannau nifer o gyhoeddwyr, gan gynnwys: www.classics.routledge.com/rcenters/classics/author/permission.html
Fel arfer, gellir dod o hyd i ddeiliad hawlfraint trwy gyhoeddwr yr awdur dan sylw neu, fel arall, trwy gyrff megis WATCH (Writers Artists and Their Copyright Holders) www.watch-file.com, y Society of Authors info@societyofauthors.net , a’r Cofrestrydd Hawliau Benthyca Cyhoeddus/ Public Lending Right Registrar a’r prif asiantaethau awduron megis A. P. Watt www.apwatt.co.uk . Lle nad oes modd dod o hyd i ddeiliad hawlfraint, gall cyhoeddi fod yn drosedd, hyd yn oed os cynhwysir cydnabyddiaeth briodol. Serch hynny, bydd o gymorth i achos yr awdur a’r cyhoeddwr os gallant brofi iddynt weithredu’n gydwybodol ac yn ddiffuant, er enghraifft trwy neilltuo swm o arian ar gyfer breindal a thrwy gadw cofnod o’r ymdrechion a wnaed i gysylltu â deiliad yr hawlfraint.
Taliadau
Nid oes un raddfa daliadau mewn perthynas â threfnu caniatâd; bellach gwaherddir cyrff masnachol fel y Publishers Association rhag argymell taliadau, o dan ddeddfwriaeth a luniwyd i hybu cystadleuaeth. Gogyfer â dyfyniadau hwy, mae’r asiant awduron, A. P. Watt, yn gweinyddu dwy raddfa, un ar gyfer y prif awduron a’r llall ar gyfer awduron llai adnabyddus. Dyma’r taliadau ar gyfer y prif awduron:
- Rhyddiaith: £168/1000 o eiriau ar gyfer hawliau byd-eang yn Saesneg (WEL)
- Barddoniaeth: £138/hyd at 10 llinell ar gyfer hawliau byd-eang yn Saesneg (WEL) £2.60 am bob llinell ar gyfer yr 20 llinell nesaf, a £1.70 am bob llinell wedi hynny. (Os defnyddir mwy nag un gerdd, pennir swm ar wahân i bob cerdd.)
- Y byd heblaw UDA: 60% WEL
- UDA + Canada: dwy ran o dair WEL
- Y byd heblaw UDA a Chanada: 55% WEL
- UDA neu Ewrop: 50% WEL
- Y Gymanwlad Brydeinig yn cynnwys Canada: 50% WEL
- Y Gymanwlad Brydeinig heblaw Canada: 50% WEL
- Unrhyw brif wlad neu iaith arall, heblaw’r Saesneg: 25% WEL
- Awstralasia neu’r Deyrnas Gyfunol: traean o WEL
Ychwanegir 50% at y tâl ar gyfer pob argraffiad ychwanegol (e.e. clawr papur, clwb llyfrau, casét llafar); ceir gostyngiad o 50% ar gyfer gweithiau ysgolheigaidd pan argreffir hyd at 1000 o gopïau yn unig. Codir tâl uwch am hawliau electronig.
Cyhoeddi Electronig
Ceir gwybodaeth ymarferol ynglŷn â chymhwyso rheolau ‘delio’n deg’ at argraffu, copïo, trosglwyddo a phostio yng nghyd-destun cyhoeddi electronig yn Guidelines for Fair Dealing in an Electronic Environment, a gyhoeddwyd ar-lein gan y Joint Information Systems Committee a’r Publishers Association (1998): www.ukoln.ac.uk/services/elib/papers/pa/licence/fairnote.html
Ceir gwybodaeth bellach am ganiatâd ar y gwefannau a grybwyllir uchod ac yn Hugh James a Christopher Benson, Publishing Law, 3ydd argraffiad (Routledge 2006).
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010