Lluniau: Hawlfraint, Ymchwil a Threfniadau Trwyddedu

Welsh Books Council

Lluniau: Hawlfraint, Ymchwil a Threfniadau Trwyddedu

Yn ôl Deddf Hawlfraint y Deyrnas Unedig mae gan y sawl sy’n creu delweddau (darluniadau, ffotograffau, dyluniadau, etc.) hawliau tebyg i’r rhai sydd gan awduron. Rheolir y defnydd o’r delweddau hynny gan gytundebau trwyddedau, a’r rheiny’n debyg i gytundeb rhwng cyhoeddwr ac awdur. Rhaid i’r darpar-ddefnyddiwr negodi telerau’r cytundeb gyda deiliad yr hawlfraint neu gydag asiantaeth (megis y Design and Artists Copyright Society), llyfrgell luniau neu sefydliad arall sy’n gweithio ar ran deiliad yr hawlfraint.

Dyma rai o’r materion pwysig y mae angen i gyhoeddwyr eu hystyried wrth gomisiynu lluniau neu negodi telerau ar gyfer eu hatgynhyrchu:

  • Mae hawlfraint ar lun yn parhau am 70 mlynedd yn dilyn marwolaeth y sawl a’i creodd, gyda’r eithriadau a nodir yn www.epuk.org/resources/abcd/majorpoints.html
  • Mae hawlfraint yn cwmpasu’r holl gyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau electronig.
  • Ni ddylid atgynhyrchu delweddau sydd o dan hawlfraint heb ganiatâd deiliad yr hawlfraint honno: cyfrifoldeb y darpar-ddefnyddiwr yw sicrhau ei fod yn gweithredu oddi mewn i derfynau’r gyfraith ac yn unol â thelerau’r drwydded neu ofynion ‘delio’n deg’.
  • Rhaid i drwyddedau nodi union gwmpas y caniatâd a gynigir parthed ffurf (e.e. y cyfrwng arfaethedig, a fwriedir defnyddio’r ddelwedd gyfan neu ran ohoni, etc.) a defnydd (e.e. ar gyfer clawr llyfr neu fel darlun yn y testun). Bydd y materion hyn fel arfer yn cael eu disgrifio mewn atodiad i’r drwydded, neu ar y ffurflen a ddefnyddir wrth dderbyn comisiwn neu yn anfoneb deiliad yr hawlfraint.
  • Gan amlaf, cynigir caniatâd i ddefnyddio delwedd unwaith yn unig (e.e. i’w ddefnyddio ar glawr llyfr, ond nid i’w ddefnyddio eto fel darlun mewn llyfr neu ar glawr catalog).
  • Gweithredir amodau ‘delio’n deg’ yn yr un modd ag ar gyfer llyfrau sydd o dan hawlfraint: caniateir atgynhyrchu yng nghyd-destun adolygu a beirniadu dilys.
  • Os dymunir defnyddio delwedd (e.e. clawr llyfr) at ddibenion masnachol eraill (e.e. mewn hysbyseb neu gatalog ar y We), rhaid nodi hynny’n benodol ymhlith amodau’r drwydded; fel arall, bydd angen ceisio am ganiatâd ar wahân ar gyfer pob atgynhyrchiad unigol. Y mae systemau gwybodaeth nad ydynt ar gael i’r cyhoedd (e.e. catalogau i’r fasnach, taflenni rhaghysbysu) yn cael eu heithrio o’r amod hwn. Mae’r Design and Artists Copyright Society (DACS) fel arfer yn caniatáu atgynhyrchu cloriau llyfrau at ddibenion marchnata, ar yr amod nad yw’r cyhoeddiad y’i hatgynhyrchir arno ar werth i’r cyhoedd.

Ceir crynodeb o’r Ddeddf Hawlfraint a sut y mae’n cael ei gweithredu yn y maes hwn ar wefan y British Association of Picture Libraries and Agencies: www.bapla.org.uk.

Ceir enghreifftiau ar-lein o delerau ac amodau trwyddedau ar wefannau‘r Association of Illustrators www.theaoi.com/information/licence.html; Editorial Photographers UK www.epuk.org; a’r Association of Photographers www.the-aop.org/pdfs/forms/t_and_C_Eire.doc. (Mae rhai o’r cymalau yn yr olaf o’r rhain yn berthnasol i Iwerddon yn unig.)

Mae Amodau a Thelerau Cyffredinol y Design and Artists Copyright Society ar gael yn www.dacs.org.uk

CHWILIO AM LUNIAU

Cymru

  • Gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru y mae’r casgliad mwyaf o ddelweddau ffotograffig (mwy na 750,000). Fel arfer, gellir darparu copïau am dâl. Ceir manylion pellach yn www.llgc.org.uk/index.php?id=collections00
  • Mae Archif Luniau Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys tua 150,000 o negyddion a phrintiau a thua 15,000 o dafluniau. Ceir mwy o wybodaeth yn www.aocc.ac.uk 
  • Mae rhan o gasgliad celfyddyd gain Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i’w gweld yn www.aocc.ac.uk I archebu delweddau neu ofyn am ganiatâd i’w hatgynhyrchu, cysyllter â’r Adran Fasnachol.
  • The Photolibrary Wales. Mae gan y casgliad annibynnol hwn dros 100,000 o ddelweddau gwreiddiol a gellir archwilio 30,000 o’r rhain yn www.photolibrarywales.com

Canllawiau Cyffredinol

  • Y cyfeirlyfr safonol yw Hilary & Mary Evans, Picture Researchers Handbook 7fed argraffiad (Pira International 2001) £65 (£95 yn cynnwys CD)
  • Mae e-lyfr Julian Jackson, Picture Research in a Digital Age, yn trafod ffotograffiaeth ddigidol, fformatau ffeil a diwygiadau, sganio a chwilio’r rhyngrwyd, ac yn cynnig cyngor ynglyn â meddalwedd ddefnyddiol. Mae ar werth am £25 trwy’r Picture Research Association www.picture-research.org.uk/links.htm

Llyfrgelloedd Lluniau

Mae’r rhyngrwyd yn cynnig amrywiaeth mawr o ffynonellau lluniau. Dyma rai o’r gwefannau mwyaf defnyddiol ar gyfer ymholiadau cyntaf:

Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010