Dylai cyhoeddwr gynnig cytundeb drafft i’r awdur cyn gynted ag y mae wedi pennu amserlen gyhoeddi. Bydd telerau’r cytundeb yn amrywio yn ôl natur y gwaith a bydd hawl gan y ddwy ochr eu negodi. Gan amlaf, y golygydd sy’n cynnal y negodiadau hyn ar ran y cyhoeddwr. Llofnodir y cytundeb cyn i’r llyfr gael ei gysodi.
Dyma’r wybodaeth a gynhwysir mewn cytundeb safonol:
- teitl ar gyfer adnabod y gwaith
- cwmpas yr hawliau a roddir gan y cytundeb (sef trwydded i gyhoeddi, gan amlaf, neu, yn llai cyffredin, cytundeb i drosglwyddo’r hawlfraint), tiriogaeth ac iaith, hyd y drwydded, fformat, etc.)
- y ddarpariaeth ar gyfer hawliau atodol (clawr papur, clwb llyfrau, blodeugerdd, darlledu, cyhoeddi electronig, print bras, cyfieithiadau, etc.)
- cymal yn rhyddarbed ac indemnio’r cyhoeddwr yn erbyn enllib, niwed a thorri hawlfraint
- amserlen ar gyfer cyflwyno’r llawysgrif a’i chyhoeddi, ynghyd â threfniadaeth ar gyfer ei chymeradwyo a’i diwygio
- manylion taliadau, breindaliadau, blaendaliadau a datganiadau ariannol
- amserlen ar gyfer newidiadau gan yr awdur a disgrifiad o sut y rhennir y gost o’u gwneud
- cyfrifoldeb am drefnu caniatâd (ar gyfer lluniau, etc.) a pharatoi deunyddiau ategol, gan gynnwys mynegai a lluniau
- cymal sy’n cynnig i’r cyhoeddwr y cyfle cyntaf i gyhoeddi’r gwaith nesaf o eiddo’r awdur
- y telerau ar gyfer dirwyn y cytundeb i ben a throsglwyddo’r hawliau yn ôl i’r awdur.
Fel arfer, bydd y cytundeb yn cynnwys, yn ogystal, gymalau ynglŷn â chynhyrchu (gan gynnwys y rhediad argraffu) a dosbarthu, nifer y copïau cyfarch a roddir i’r awdur, arddel hawlfraint a hawliau moesol, addewid yr awdur i beidio â chyhoeddi gweithiau a fyddai’n cystadlu â’r gwaith a enwir yn y cytundeb, gweddillio (remaindering), argraffu yn ôl y galw, a materion eraill sy’n berthnasol i’r gwaith dan sylw.
Canllawiau
Dyma rai o’r llyfrau safonol sy’n trafod cytundebau cyhoeddi:
C Clark & L Owen, Clark’s Publishing Agreements (Butterworths Tolley 2007). Seithfed argraffiad y llyfr safonol hwn. Mae’n cynnwys enghreifftiau llawn, ynghyd â nodiadau, a'r wybodaeth ddiweddaraf am hawliau electronig a meddalwedd.
Hugh James and Christopher Benson, Publishing Law, trydydd argraffiad (Routledge, 2006)
Ingrid Wintemitz, Electronic Publishing Agreements (Oxford 2000) (ynghyd â dau ddisg). Mae’n trafod pob agwedd ar y maes, gan gynnwys Drafftio Cytundebau Electronig, Cytundebau Cyhoeddi Cronfeydd Data, Caffael Hawliau, Cytundebau ar gyfer Cyhoeddi Gwaith Printiedig ar Ffurf Electronig, Cytundebau ar gyfer Defnyddio Testun Mewn Cyhoeddiad Electronig, Llythyrau Gofyn Caniatâd, Cytundebau ar gyfer Cyd-ddatblygu a Chyd-gyhoeddi Cynnyrch Electronig, etc.
Y mae amryw o lyfrau sy’n ymwneud ag arferion da yn y maes hwn o safbwynt penodol yr awdur neu’r cyhoeddwr. Dyma ganllawiau sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelu buddiannau’r awdur:
- Undeb yr Ysgrifenwyr (The Writers’ Guild) (Pwyllgor Cymru): Cytundeb Enghreifftiol
Mae Undeb yr Ysgrifenwyr wedi llunio cytundeb enghreifftiol yn benodol ar gyfer awduron a chyhoeddwyr Cymraeg, er bod y rhan fwyaf o’r cymalau yn adlewyrchu ‘Minimum Terms Agreement’ safonol yr Undeb (gweler The Society of Authors isod). Ceir copïau o’r cytundeb hwn oddi wrth Undeb yr Awduron (Cymru), Ystafell 23, 13 Heol y Farchnad, Pontypridd CF37 2ST Ffôn 01443 485106 Ffacs 01443 485106; neu gellir ei lawrlwytho trwy glicio yma.
- The Society of Authors
Quick Guide: Publishing Contracts
Quick Guide: Translator-Publisher Agreements
Mae’r llyfrynnau hyn yn rhoi arweiniad cam-wrth-gam. Maent ar gael i aelodau yn rhad ac am ddim ac ar werth i’r cyhoedd am £10 yr un o'r cyfeiriad canlynol:
Society of Authors
84 Drayton Gardens
Llundain
SW10 9SB
Ffôn 020 7373 6642
info@societyofauthors.org
www.societyofauthors.net/index.php4.
Ni chodir am gludiant.
Mae’r Society of Authors hefyd yn rhoi i’w haelodau gopi o’r Minimum Terms Agreement (MTA): cytundeb a luniwyd ar y cyd ag Undeb yr Ysgrifenwyr ac a dderbyniwyd gan nifer o brif gyhoeddwyr. Er mai aelodau’r Undeb a’r Society of Authors a nifer gyfyngedig o dai cyhoeddi yn unig a rwymir ganddo, cafodd ddylanwad mawr ar gytundebau yn gyffredinol ac fe’i defnyddir o hyd mewn trafodaeth ac anghydfod. Er hynny, mae’r fersiwn diweddaraf o’r cytundeb oddeutu 15 mlwydd oed ac mae’n cynnwys nifer o gymalau nad ydynt yn cyfateb i arferion cyfredol.
- Cytundeb Enghreifftiol yr Irish Writers Union. Gellir darllen cytundeb enghreifftiol yr IWU ar wefan yr Undeb, sef www.ireland-writers.com. Nid yw’r cymalau sy’n ymwneud â breindal, hawliau atodol, datrys anghydfodau a chyfraith gwlad yn disgrifio’r sefyllfa yn union fel y mae yn y Deyrnas Unedig.
- Michael Legat, Understanding Publishers’ Contracts, ail argraffiad (Robert Hale, 2002). Ceir yn y llyfr 192 tt hwn gyngor ar bob cymal yn y cytundeb ynghyd ag enghreifftiau llawn.
Ceir canllawiau cyffredinol i awduron yn www.publishing-services.co.uk/faqs_contracts.php
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010