Wedi derbyn y deipysgrif, dylai’r cyhoeddwr ofyn i’r awdur am wybodaeth a fydd yn ei gynorthwyo i werthu’r teitl. Y mae holiadur cyffredinol yn debygol o gynnwys yr elfennau isod, gydag amrywiadau yn ôl natur y gwaith. (Er enghraifft, yn achos llyfrau ysgolheigaidd, bydd angen cynnwys crynodebau mwy manwl a rhoi mwy o sylw i yrfa’r awdur a theitlau eraill sy’n cystadlu â’r teitl dan sylw, ac yn y blaen.)
______________________________________________________________________
Gwybodaeth Ragarweiniol
- enw’r awdur fel y bydd yn ymddangos ar y llyfr
- teitl ac is-deitl y llyfr
Manylion am yr Awdur
- enw llawn
- cyfeiriad(au) a manylion cyswllt llawn
- cenedligrwydd
- dyddiad geni
- swydd
- ym mha wlad y mae ei gartref parhaol
- rhif cofrestru Treth ar Werth (os yn berthnasol)
- Rhif Yswiriant Cenedlaethol
- Swyddfa Dreth yr awdur
- nodyn bywgraffyddol
- cyhoeddiadau blaenorol
Manylion am y llyfr
- crynodeb byr o’r llyfr (dwy neu dair brawddeg)
- disgrifiad llawnach o’r llyfr (hyd at 300 gair), ynghyd â thabl cynnwys, os yn briodol
- prif nodweddion gwerthu: sut y mae’r llyfr yn amserol, yn ddadleuol, yn wreiddiol, etc. Pam mae ei angen? Beth yw ei brif apêl?
- pa rannau o’r llyfr a allai fod yn addas ar gyfer eu dyfynnu, eu cyfresoli, etc.
Y farchnad
- darllenwyr arfaethedig y llyfr. Yn achos llyfr academaidd, bydd angen nodi’n fanwl at ba grwp neu lefel yr anelir y teitl
- cwmpas daearyddol y brif farchnad (rhanbarthol, Cymru gyfan, y Deyrnas Unedig, etc.)
- marchnadoedd anacademaidd tebygol
- y nodweddion sy’n gwneud y llyfr yn wahanol i deitlau eraill yn yr un maes. Ar gyfer llyfrau ysgolheigaidd, ac amryw gategorïau eraill (llawlyfrau, llyfrau sut-i'w-wneud, gwyddoniaeth a hanes poblogaidd, etc.) dylid rhestru’r teitlau pwysicaf sy’n cystadlu â’r llyfr dan sylw, gan dynnu sylw at y prif wahaniaethau.
Hyrwyddo
- rhestr o sefydliadau y gall fod gan eu haelodau ddiddordeb yn y llyfr, a gwybodaeth, lle bo modd, ynglŷn â’r hawl i ddefnyddio eu rhestrau aelodaeth
- papurau newydd, cylchgronau, cylchlythyrau sefydliadau, etc. a allai fod yn barod i ddosbarthu taflenni neu i adolygu’r llyfr
- cysylltiadau’r awdur yn y wasg a’r cyfryngau
- unigolion amlwg a fyddai’n barod i ddarparu cymeradwyaeth-o-flaen-llaw o gael copi proflen o’r llyfr
- cadarnhad a yw’r awdur yn barod i ymateb yn uniongyrchol i ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau ac i ymgymryd â gweithgareddau hyrwyddo (lansiadau, sesiynau arwyddo, teithiau darllen, etc.)
- unrhyw ffeithiau am yr awdur neu’r llyfr a allai ddenu sylw’r cyfryngau.
______________________________________________________________________
Ceir cyngor ynghylch sut i lunio Holiadur Awdur, ynghyd â sampl, yn Alison Baverstock, How to Market Books, pedwerydd argraffiad (Kogan Page, 2008).
Cyhoeddwyd nifer o holiaduron ar y rhyngrwyd. Mae’r rhain yn amrywio yn ôl natur y llyfr a hyrwyddir. Dyma ychydig o enghreifftiau:
https://authornet.cambridge.org/information/questionnaire/
http://mitpress.mit.edu/authors#AQs
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010