Mae gosod manylion llyfrau yn y prif gronfeydd llyfryddiaethol yn hanfodol ar gyfer hwyluso archebu gan siopau a llyfrgelloedd. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hynny chwe mis cyn y dyddiad cyhoeddi.
CYMRU
Y brif gronfa ddata ar gyfer llyfrau a gyhoeddir yng Nghymru, a nifer o lyfrau o ddiddordeb Cymreig a gyhoeddir y tu allan i Gymru, yw www.gwales.com. Mae’r wefan hon yn cynnig rhestr chwiliadwy o’r holl deitlau sydd ar gael trwy Ganolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru. Gall cyhoeddwyr ddarparu gwybodaeth yn electronig am deitlau newydd a theitlau sydd ar fin ymddangos trwy ddefnyddio'r dudalen ganlynol:
https://www.gwales.com/infosheet.php?lang=CY
Am ragor o wybodaeth, neu i dderbyn Enw Defnyddiwr/Cyfrinair cysyllter â:
Swyddog Gwybodaeth
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB
Ffôn 01970 624151
Ffacs 01970 625385
gwybodaeth@cllc.org.uk
Mae’n ofynnol i bob cyhoeddwr sy’n derbyn grant gan Gyngor Llyfrau Cymru ddarparu rhif ISBN ar gyfer y llyfr a ariennir, ynghyd â chymaint o fanylion eraill ag sy’n bosibl, dri mis cyn y dyddiad cyhoeddi neu o fewn wythnos ar ôl i’r cyhoeddwr dderbyn cynnig grant, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf.
Y DEYRNAS GYFUNOL
Y prif gronfeydd ddata ar cyfer cyhoeddwyr yn y Deyrnas Gyfunol yw:
Bibliographic Data Services Ltd
Annandale House
The Crichton
Bankend Road
Dumfries
DG1 4TA
Ffôn 01387 702251
Ffacs 01387 702259
info@bibdsl.co.uk
http://www.bibliographicdata.com/
Mae BDS yn un o’r prif ffynonellau gwybodaeth am lyfrau a chyhoeddiadau adloniant yn y cartref, ar gyfer llyfrgelloedd, cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr.
Nielsen BookData
89-95 Queensway
Stevenage
Hertfordshire
SG1 1EA
Ffôn 44(0)1438 744100
Ffacs 44(0)1438 745578
biblio@bookdata.co.uk
Ffurfiwyd Nielsen BookData yn 2002 pan gyfunwyd Whitaker, First Edition a Book Data. Mae’n cynnig gwasanaeth rhestru-llyfrau di-dâl, a hynny’n sicrhau bod pob llyfr yn cael ei gynnwys hefyd yn rhestrau masnachol safonol The Bookseller (gan gynnwys argraffiadau allforio y gwanwyn a’r hydref) a gwasanaeth tanysgrifio sy’n darparu disgrifiadau manylach o lyfrau. Gellir lawrlwytho ffurflen Teitl Newydd o www.nielsenbookdata.co.uk. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer llyfrau Saesneg yn unig.
UNOL DALEITHIAU AMERICA
Y prif wasanaeth llyfryddiaethol ar gyfer y farchnad Americanaidd yw:
Bowker UK & International Ltd
First Floor
Medway House
Cantelupe Road
East Grinstead
West Sussex
RH19 3BJ
Ffôn 44(0)1342 310450
Ffacs 44(0)1342 310486
pad@bowker.co.uk
Ni chodir tâl ar gyhoeddwyr llyfrau Saesneg am gynnwys eu cyhoeddiadau yn nghronfa cwmni Bowker, sef www.GlobalBooksInprint.com. Ceir cyfarwyddiadau ynglŷn ag anfon gwybodaeth ar-lein o www.bowker.co.uk
_______________________________________________________________________
Mae Central Books yn darparu ffurflen lyfryddol safonol y gellir ei defnyddio i anfon manylion am deitlau newydd at Bowker a Nielsen BookData, ac hefyd at wasanaeth llyfryddol Central Books ei hun. Dyma fanylion cyswllt Central Books:
Central Books
99 Wallis Road,
Llundain
E9 5LN
Ffôn 0845 458 9911
Ffacs 0845 458 9912
info@centralbooks.com
www.centralbooks.com
Mae’r holl ffurflenni a ddefnyddir ar gyfer cyflwyno gwybodaeth lyfryddol yn cydymffurfio â ‘Safonau Sylfaenol’ Book Industry Communication (BIC). Ceir manylion pellach o http://bic.org.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010