Ymddeoliad Golygydd Cof Cenedl

Welsh Books Council

Ymddeoliad Golygydd Cof Cenedl - 05 Mawrth 2009

O’R TE PARTI I’R FFARWELIO

Un o’r teitlau mwyaf lliwgar ac anarferol ar gyfer ysgrif yn y gyfrol ddiweddaraf o Cof Cenedl yw ‘Te Parti Mwncïod’, gan Dr Andrew Edwards.

Sonia’r ysgrif ddadlennol hon am rwyg, anghytgord a datblygiad polisi Llafur ar ddatganoli rhwng 1966 a 1979.

Dadleuir bod "ein dealltwriaeth o ddatganoli wedi datblygu cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae swyddogaeth a gweithgarwch y Blaid Lafur o safbwynt y pwnc wedi dod yn gliriach.  Wrth i glwyfau’r gorffennol ddechrau gwella, gellir trafod y mater yn fwy cytbwys a deallus.  Ychydig erbyn hyn sy’n derbyn bod y  ‘gang of six’  wedi creu ymdeimlad yn erbyn datganoli.  Awgrymir yn hytrach fod eu propaganda wedi dinoethi ofnau, tensiynau a phryderon ymhlith etholwyr Cymru a oedd eisoes wedi ymwreiddio’n ddwfn yn y meddylfryd cenedlaethol.  Mewn geiriau eraill, y mae’n debygol fod y syniad o ddatganoli wedi ei drechu ymhell cyn refferendwm 1979.  Yn yr ysgrif hon awgrymir mai rheitiach fyddai dinoethi diffygion y rhai a geisiodd ennill cefnogaeth i’r mesur, gan osod llai o bwyslais ar y sawl a wrthwynebodd ddatganoli."

Ysgrif ddifyr arall yn y gyfrol yw  ‘Cyflafan Dolgellau’  gan Hywel Teifi Edwards, sy’n sôn am lofruddiaeth filain y fam ddibriod Sarah Hughes a dienyddiad y troseddwr o Gymro, Cadwaladr Jones, yn 1877.  Yn ôl Hywel Teifi "Ers helynt  ‘Brad y Llyfrau Gleision’  bu’r Gymru Anghydffurfiol, Gymraeg ei hiaith, yn niwrotig ei hymboeni am ei graen yng ngolwg y byd...Daethai brad ‘o’r tu mewn’ i sigo’r genedl i’w sail a’i gwneud bron yn amhosibl trafod y ‘weithred fall’ yn gall."  Dengys yr ysgrif fod ymwybyddiaeth y Cymry o’r ddelwedd ‘Cymru lân Cymru lonydd’ wedi’i chleisio gan y drosedd hon ym Meirionnydd.

Ceir ysgrifau eraill yn  Cof Cenedl XXIV  ar amrywiol bynciau gan gynnwys dylanwad y Beibl ar Gymru yn y cyfnod modern cynnar, llenyddiaeth Streic Fawr Chwarel y Penrhyn a Siôn Rhydderch a’i waith.

Cyhoedda Geraint H. Jenkins yn ei ragair "Gan fy mod yn ymddeol o’r byd academaidd...yr wyf wedi penderfynu dirwyn Cof Cenedl i ben.  Y pedwerydd rhifyn ar hugain hwn, felly, fydd yr olaf un yn y gyfres hon.  Rwy’n mawr obeithio bod y gyfres wedi cyrraedd ei nod o apelio at ddarllenwyr cyffredin yn ogystal â haneswyr dysgedig a myfyrwyr ifainc, a bod yr ysgrifau a gyhoeddwyd ynddi wedi dangos bod dehongli amrywiol weddau ar ein hanes yn Gymraeg yn waith tra phwysig i ni fel pobl." 

"Fel y dywedwyd lawer gwaith, cof cenedl yw ei hanes ac ni allwn fforddio colli’r cof sy’n cynnal ein hunaniaethau fel Cymry.  Rwy’n hyderus y daw rhywun iau na mi i lenwi’r bwlch a adewir ar ôl y gyfres a hefyd y gyfres o gyfrolau blynyddol ar ddiwylliant Cymraeg cymoedd de Cymru, dan olygyddiaeth fy nghyfaill penwyn Hywel Teifi Edwards, cyfres a ddaeth o’r un stabal glyd yn Llandysul.  Y mae Hywel a minnau’n dal i gredu na all cenedl ddeall ei phresennol na rhag-weld ei dyfodol heb ymdrwytho’n llwyr yn ei gorffennol, a bod gan y gair printiedig ran allweddol bwysig i’w chwarae yn yr ymdrech barhaus i gryfhau a chyfoethogi ymdeimlad cenedlaethol ein pobl."

Mae’r cyhoeddwr, Gwasg Gomer, yn ddiolchgar tu hwnt am waith aruthrol golygydd y gyfres, yr Athro Geraint H. Jenkins ynghyd â’r llu o gyfranwyr brwdfrydig.  Yn ôl y cyfarwyddwr cyhoeddi, Mairwen Prys Jones, "dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy, gwnaeth Cof Cenedl gyfraniad enfawr i’n hymwybyddiaeth ni fel Cymry Cymraeg o’n tras a’n hetifeddiaeth.  Mae ein dyled ninnau fel cenedl yn fawr i waith caboledig a chydwybodol Geraint H. Jenkins ar hyd y blynyddoedd."

Nol i'r Rhestr Newyddion

Archif Newyddion