Cyflwynir yr Athro Hopkin gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth, a’r cadeirydd fydd Gareth Davies Jones, Is-Gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Ymhlith y gwesteion bydd cynrychiolwyr rhai o brif gyrff a sefydliadau Cymru, yn cynnwys prifysgolion, llyfrgelloedd, byd addysg a sefydliadau corfforaethol.
Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth: ‘Roedd yn bleser gen i dderbyn y gwahoddiad i gyflwyno’r ddarlith hon. Am flynyddoedd lawer mae Syr Deian Hopkin wedi bod yn allweddol yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hanes Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud am ei ddewis o lyfrau. Mae gan Ddiwrnod y Llyfr rôl bwysig i’w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth o’r budd a geir trwy ddarllen ac, ymysg pethau eraill, mae’n tynnu sylw at y gwasanaethau a gynigir gan y llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i raglen o fuddsoddi mewn llyfrgelloedd cyhoeddus a’u hadnewyddu, gan eu bod yn cynnig adnodd amhrisiadwy i’r cyhoedd wrth iddynt ymchwilio i hanes cyfoethog ein gwlad.’
Thema Syr Deian fydd ‘Llyfrau – Anrhegion i’w Cofio’ a bydd yn dewis pum llyfr, sydd mewn print ar hyn o bryd, yr hoffai eu hawgrymu fel anrhegion i unigolion arbennig neu i ffrindiau. Bydd ei ddewis yn ymestyn o nofel i gofiant hanesyddol, o atgofion am yrfa ym myd jazz i gasgliad o gerddi, ac o Lanelli i Ryfel Cartref Sbaen. Cafodd pob un o’r teitlau ryw ddylanwad ar fywyd a diddordebau Syr Deian ei hun, ac mae ganddynt oll gysylltiad cryf â Chymru.
Ganed Syr Deian Hopkin yn Llanelli a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri a Phrifysgol Aberystwyth. Ac yntau’n hanesydd yn ôl ei alwedigaeth, cafodd yrfa lwyddiannus am dros 40 mlynedd ym myd addysg uwch gan ddysgu yng Ngholeg Queen Mary, Llundain, yn y Brifysgol Agored, ac am 24 mlynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bu’n Bennaeth yr Adran Hanes. Yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Ddeon Gwyddorau Dynol ac yna’n Is-Brifathro ym Mhrifysgol y Guildhall, Llundain. In 2001 fe’i penodwyd yn Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol y South Bank, Llundain, ac ymddeolodd oddi yno yn 2009. Yn ddiweddar roedd yn gyfrifol am arwain ymchwiliad annibynnol, ar ran y Llywodraeth, i’r cwmni sy’n gyfrifol am fenthyciadau i fyfyrwyr, a’r problemau a wynebir gan y cwmni hwnnw.
Mae’n weithredol ym maes sgiliau a pholisïau addysg uwch, gan wasanaethu ar nifer o gyrff cenedlaethol a chadeirio dau gorff ymgynghorol ar ran y Llywodraeth; mae’n cyfrannu’n eang hefyd at waith elusennol a chymunedol. Cyflwynwyd iddo amryw o anrhydeddau oddi wrth brifysgolion a chyrff cyhoeddus, ac yn 2009 cafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i addysg uwch ac i sgiliau yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’n gyfrannwr cyson ar raglenni radio a theledu yng Nghymru ac yn ysgrifennu’n aml i’r wasg, ac ers blynyddoedd lawer bu’n perfformio fel pianydd jazz, gan ymddangos yn gyson yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu ac mewn mannau eraill yng Nghymru.
Dywedodd Elwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae Syr Deian yn siaradwr nodedig, ac rydym yn falch iawn ei fod yn ymuno â ni eleni i ddathlu Diwrnod y Llyfr."
Ychwanegodd Syr Deian Hopkin: "Mae’n fraint i mi gael fy ngwahodd i siarad ar achlysur mor bwysig, ac rwy’n edrych ymlaen at gael cyfle i esbonio fy newis personol o lyfrau. Fel hanesydd, rwy’n deall yn dda pa mor bwysig yw llyfrau wrth i ni geisio deall ein gorffennol. Mewn oes dechnolegol fel hon, ni ddylem anghofio bod llyfrau – cyfrwng traddodiadol ond parhaol – yn ffordd unigryw o’n helpu i ddeall pobl a llefydd. Maent hefyd yn gwneud anrhegion gwych!"
Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2010 ddydd Iau 4 Mawrth, a threfnir nifer o weithgareddau, gweithdai a digwyddiadau amrywiol a diddorol dros Gymru benbaladr. Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://bit.ly/diwrnodyllyfr
Nol i'r Rhestr Newyddion