Diwrnod y Llyfr

Welsh Books Council

Diwrnod y Llyfr - 03 Mawrth 2010

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn annog pawb i gymryd rhan – o awdurdodau addysg a llyfrgelloedd lleol i sefydliadau corfforaethol, y wasg a’r cyfryngau.

Prif nod Diwrnod y Llyfr yw annog pobl i fwynhau llyfrau a darllen, trwy roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous. Gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau, mae’r dathliad bellach yn ddyddiad sefydlog ar y calendr yng Nghymru.

Mae yna bob math o ddigwyddiadau, gweithgareddau, gweithdai a dathliadau’n digwydd mewn ardaloedd ledled Gymru mewn ysgolion, prifysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.

Ymhlith y digwyddiadau mewn ysgolion a chanolfannau mae sesiynau gydag awduron yn adrodd straeon, sesiynau ysgrifennu creadigol a llunio llyfrau, gweithdai gydag awduron a darlunwyr, helfeydd llyfrau a chystadlaethau ysgrifennu. Mewn gwahanol lyfrgelloedd mae yna ddyddiau ar thema ganoloesol ar gyfer plant ac oedolion, boreau coffi, hyfforddiant ar hwiangerddi ar gyfer rheini, cwisiau, nosweithiau gydag awdur, picnic tedi bêr, parti môr-ladron, sesiynau gwneud mygydau a phypedau, a noson ‘Blas ar Gymru’ gyda darlleniadau.

Yn ogystal, cynhaliwyd cystadlaethau ar gyfer grwpiau darllen a sgwadiau sgwennu i roi cyfle iddynt fanteisio ar ymweliad gan awdur enwog, ac i ennill gwobr ariannol i’w galluogi i gynnal eu gweithdai eu hunain.

Meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae Diwrnod y Llyfr bellach yn achlysur pwysig iawn yn y dyddiadur; hoffem annog pawb i gymryd rhan ac i ymuno yn y dathliadau."

Am ragor o wybodaeth ar y llu o weithgareddau, gweithdai a digwyddiadau amrywiol a diddorol sydd i’w cynnal yn eich ardal chi a thrwy Gymru benbaladr, cliciwch yma.

Nol i'r Rhestr Newyddion