Y Diwydiant Llyfrau yng Nghymru

Welsh Books Council

Y Diwydiant Llyfrau yng Nghymru - 04 Mawrth 2010

Gyda dyfodiad y we fyd eang a datblygiad cyfryngau a thechnoleg newydd beth fydd dyfodol y diwydiant llyfrau yng Nghymru? A ninnau newydd ddathlu Diwrnod y Llyfr dyma gyfle i ystyried pa werth fydd i'r gair printiedig mewn blynyddoedd i ddod a sut ellir denu mwy i fwynhau darllen.

Y panelwyr fydd yr awdures a'r darlledydd Bethan Gwanas, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, Elwyn Jones a Chyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, Mairwen Prys Jones.

Cadeirydd y noson fydd Catrin Beard.

Cynhelir y noson yn swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth SY23 3UR ar nos Fercher, 17 Mawrth. Bydd paned ar gael o 5.30 ymlaen a'r drafodaeth i gychwyn am 6 o'r gloch.

Os am fynychu mae angen cofrestru drwy ebostio  ybont@cymru.gsi.gov.uk  neu drwy ffonio 0300 062 2021 erbyn dydd Llun, 15 Mawrth.

Nol i'r Rhestr Newyddion