Rhagarweiniad i'r Fasnach Lyfrau

Welsh Books Council

Rhagarweiniad i'r Fasnach Lyfrau

Pwrpas y cyhoeddiad 'Introduction to the Book Trade' gan Peter Kilborn and Simon Edwards ac a gynhyrchir gan BIC [Book Industry Communication] yw cyflwyno gwybodaeth a chyngor gwerthfawr i gwmnïau a sefydliadau sy'n bwriadu masnachu o'r newydd yn y diwydiant llyfrau am adeiledd a'r systemau a ddefnyddir ar hyn o bryd o fewn y fasnach lyfrau yn y Deyrnas Gyfunol. Y gobaith yw y bydd y ddogfen yn rybudd amserol i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant rhag cynllunio a mabwysiadu prosesau newydd dianghenrhaid fel atebion amgen i'r rhai sydd ar gael eisoes. Ymhlith y testunau a drafodir yn y ddogfen mae:  Proffil o'r diwydiant a swyddogaeth BIC; Dynodwyr a chodau bar; EDI a systemau; Data Cynnyrch a swyddogaeth Nielsen Books; Batch.co.uk a Sypynnau a ddychwelwyd. 

I ddarllen testun y ddogfen yn ei gyfanrwydd cliciwch isod 

Dyddiad diweddaru diwethaf: 20 Awst 2010