Tipyn o fabi mam yw Alun Brady: ac yntau ar drothwy ei ben blwydd yn ddeg ar hugain, mae’n dal i fyw yng nghartref cyfforddus, dosbarth canol ei rieni yn un o faestrefi Caerdydd. Ond pan ddaw ei dad-cu annwyl a direidus, Paddy, i orwedd yn ei wely angau yn y llofft sbâr, ac mae’n pledio ar Alun i’w helpu i farw’n gynt nag y byddai natur yn fodlon ei ganiatáu. Bydd penderfyniad Alun yn troi ei fyd a’i werthoedd ben i waered.
Caiff ei garcharu am ewthanasia, ac wedi iddo gael ei ryddhau mae byd Alun yn ymddangos yn lle gwahanol iawn. Mae ei rieni wedi marw bellach, ac yn sgil y berthynas a gafodd â gwraig ei frawd cyn ei gyfnod dan glo mae Alun yn awr ar ei ben ei hun, heb deulu, ac yn gorfod ailaddasu i fywyd newydd o dlodi ar strydoedd Caerdydd. Daw ei ‘ffrindiau’ newydd o isfyd Caerdydd, ac yn eu cwmni mae Alun yn dechrau ymhél â byd o droseddu, gyda chanlyniadau trasig.
Mae Faith, Hope and Love yn symud rhwng dau gyfnod amser ac yn pontio rhwng gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol Caerdydd. Mae’r nofel drefol hon yn symud yn chwim ac mae ganddi blot cryf, llawn cyffro. Mae’r awdur yn creu darlun byw o ddinas Caerdydd ac yn mynd ati’n ddeheuig i drafod y cysyniadau o atgof a hunaniaeth. Enillodd y fersiwn Gymraeg wreiddiol, sef Ffydd, Gobaith, Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007, a Llwyd Owen ei hun sydd wedi addasu’r nofel i’r Saesneg. Dyma’i nofel Saesneg gyntaf, ac mae eisoes wedi cael ei dewis yn Llyfr y Mis ar gyfer mis Mehefin yn siopau llyfrau annibynnol Cymru.
Mae Llwyd Owen yn awdur ffuglen Gymraeg a Saesneg arobryn a aned yng Nghaerdydd yn 1977. Mae ganddo ddilyniant cwlt sydd ar gynnydd yng Nghymru, a hynny yn sgil ei ddefnydd bywiog o iaith y stryd a’r ffaith ei fod, yn ei nofelau, yn mynd ati i bortreadu rhai o gymeriadau cudd cymdeithas – yn eu plith buteiniaid, pimpiaid a throseddwyr.
Yn ogystal â chyhoeddi pedair nofel Gymraeg sydd wedi cael clod mawr, mae Llwyd yn fardd ac yn ffotograffydd. Cyflwynodd ei raglen ddogfen ei hun ar S4C yn 2008 yn trafod sîn gelf Caerdydd. Mae Llwyd yn dal i fyw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i ferch, ac mae’r ddinas yn ysbrydoli llawer iawn o’i waith. Pan nad yw’n ysgrifennu, mae’n gweithio fel cyfieithydd rhan-amser.
Nol i'r Rhestr Newyddion