Enillydd y wobr Saesneg eleni yw Paul Manship am ei gyfrol Dear Mr Author, nofel ar gyfer pobl ifanc. Dyma stori afaelgar a doniol wedi’i lleoli yng Nghasnewydd. Mae yma wreiddioldeb a chlyfrwch ac mae’n nofel sy’n symud yn gyflym. Y prif gymeriad yw Sam Willoughby, bachgen unarddeg oed, sy’n ymdrechu’n galed i lwyddo, ond yn methu oherwydd ei orfrwdfrydedd. Cyhoeddir Dear Mr Author gan Pont Books, Gwasg Gomer.
Ganed Paul Manship yng Nghasnewydd ond treuliodd flwyddyn yn byw yn Ne Affrica pan oedd yn saith oed. Mae’n athro mewn ysgol gynradd yng Nghasnewydd a dywed ei fod yn cael syniadau ar gyfer ei lyfrau o’i waith fel athro, gwylio ffilmiau ynghyd â’i ddychymyg byw. Mae’n awdur dwy nofel arall – The Cube a Rewind.
Dywedodd Paul Manship: ‘Dechreuais ysgrifennu ddeng mlynedd yn ôl, yn rhannol oherwydd i mi gael fy ysbrydoli gan y llyfrau yr oeddwn yn eu darllen i’m dosbarth, yn arbennig The Snow Spider gan Jenny Nimmo. Mae’n hynod o gyffrous meddwl fy mod yn derbyn gwobr sydd wedi’i hennill yn y gorffennol gan awduron a darlunwyr o fri fel Frances Thomas, Graham Howells a Daniel Morden. Mae ennill Gwobr Tir na n-Og wedi rhoi chwistrelliad o anogaeth i mi ar gyfer y dyfodol.’
Noddir y wobr gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) ac fe’i cyflwynir i’r awdur yn ystod derbyniad yng nghynhadledd CILIP yn Llandrindod, Powys.
Meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, ‘Roedd y cynhaeaf toreithiog o lyfrau a ystyriwyd ar gyfer y wobr yn adlewyrchu safon uchel llyfrau plant yng Nghymru heddiw. Mae’r enillydd a’r cyhoeddwr i’w llongyfarch yn fawr iawn.’
Nol i'r Rhestr Newyddion