Mae Dylan Williams yn cydio yn awenau tŷ cyhoeddi mwyaf Cymru, Gwasg Gomer, yn ei swydd newydd fel Pennaeth Cyhoeddi’r wasg. Fe’i penodwyd wedi i Mairwen Prys Jones gamu o’r neilltu ar ôl un mlynedd ar bymtheg llewyrchus iawn wrth y llyw.
"Gadawodd Mairwen lwyfan cryf i mi gamu arno," meddai Dylan Williams, "a ’mwriad i ydi datblygu’r gwaith rhagorol gyflawnodd Mairwen ar ran Gomer." Ategwyd hyn gan Jonathan Lewis, Cyfarwyddwr Berchennog y wasg wrth ddiolch i Mairwen am nid yn unig gynyddu ar nifer a safon y teitlau a gyhoeddwyd yn y cyfnod, ond hefyd codi proffil y wasg yng Nghymru a thu hwnt.
Arweiniodd Dylan Williams Gymdeithas Lyfrau Ceredigion am dros bedair blynedd ar ddeg. Arolygodd daith ugeiniau o lyfrau trwy’r wasg a than ei gyfarwyddyd ef enillodd llyfrau’r tŷ cyhoeddi bychan hwn wobr Tir na n-Og deirgwaith, derbyniodd dair gwobr gan y diwydiant cyhoeddi am gynnyrch o safon eithriadol, a gosodwyd dwy gyfrol ar restr fer Llyfr y Flwyddyn.
Dylan Williams fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r llyfr codi llabed gwreiddiol cyntaf yn Gymraeg ynghyd â’r llyfr cyffwrdd-a-theimlo gwreiddiol cyntaf yn Gymraeg, er mwyn cyflwyno straeon am Sali Mali a’i chyfeillion ar ffurf llyfrau nodwedd.
"Cyd-ddigwyddiad llwyr yw ’mod i wedi dilyn taith Sali Mali o’r Gymdeithas Lyfrau i Gomer," meddai Dylan, "ond pan welais i bod swydd Pennaeth Cyhoeddi Gomer yn wag, rhois gynnig amdani gan wybod ei fod yn un cyfle mewn oes."
Gyda’i brofiad o gomisiynu awduron ac artistiaid, a chreu a phecynnu llyfrau, mae gan Dylan Williams brofiad helaeth o gyhoeddi, " …er bydd yr her o gynhyrchu 120 o lyfrau mewn blwyddyn yn un sylweddol iawn," meddai.
Nid yn unig y mae Dylan Williams yn rhan o dîm sgriptio "Cei Bach", y rhaglen deledu boblogaidd i blant a gynhyrchir gan Sianco, y mae’n addasydd llenyddol profiadol tu hwnt gyda’i enw wrth dros bedwar ugain o gyfrolau, y mwyafrif ohonynt i blant.
Yn y 1990au bu Dylan Williams yn tynnu ffotograffau’n broffesiynol a llun o’i eiddo ef yw’r un o T. Llew Jones fel brenin dros ei lyfrau. Hefyd ffotograff gan Dylan Williams a ddefnyddiwyd ar glawr Cysgod y Cryman llyfr a enwebwyd yn Llyfr y Ganrif – ac a gyhoeddir gan Gomer.
Cyn rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion roedd Dylan Williams, wrth ei waith llawrydd, yn ddarllenydd ac yn adolygydd cyson i Gyngor Llyfrau Cymru. Cyn hynny ef oedd golygydd cyntaf Clwb Sbondonics a chyn hynny bu’n Ddirprwy Olygydd Cylchgronau’r Urdd.
"Mae cael y cyfle i reoli un o restrau cyhoeddi mwyaf arbennig Cymru yn fraint ac yn gyfrifoldeb enfawr," meddai Dylan Williams.
Nol i'r Rhestr Newyddion