Cymorth ac Ymwadiad

Welsh Books Council

Cymorth ac Ymwadiad

Hawlfraint ac Ymwadiad

1 Y mae hawlfraint pob dyluniad, testun a gwaith graffig a berthyn i’r wefan, ynghyd ag unrhyw ddetholiad neu drefniant ohonynt, a phob crynhoad ar sail meddalwedd, cod ffynhonnell weledol, meddalwedd (gan gynnwys applets) a phob deunydd arall ar wefan Y Fasnach Lyfrau Ar-lein

yn eiddo i Gyngor Llyfrau Cymru neu’r sawl a gyflenwodd y cynnwys a’r dechnoleg iddynt. Cedwir pob hawl.

2 Rhoir caniatâd i lawrlwytho a chopïo’n electronaidd ac argraffu ar gopi caled unrhyw ran o’r wefan hon, ond gwaherddir addasu, dosbarthu neu ailgyhoeddi’r deunyddiau hyn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gyngor Llyfrau Cymru. Ni fedr Cyngor Llyfrau Cymru roi caniatâd i gopïo deunyddiau sy’n ymddangos ar wefannau sefydliadau eraill, gan gynnwys gwefannau a nodir yn Y Fasnach Lyfrau Ar-lein.

3 I’R GRADDAU LLAWNAF A GANIATEIR GAN Y GYFRAITH, Y MAE CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN DARPARU GWEFAN ‘Y FASNACH LYFRAU AR-LEIN’ A’I CHYNNWYS AR SAIL ‘FEL AG Y MAE’ AC NI WNA UNRHYW HONIADAU NA RHOI GWARANTAU O UNRHYW FATH (GWEDIR POB CYFRIFOLDEB YN BENODOL) YNG NGHYSWLLT Y WEFAN NEU EI DEUNYDDIAU GAN GYNNWYS, HEB GYFYNGIAD, WARANTAU MARCHNADWYAETH AC ADDASRWYDD AR GYFER DIBEN ARBENNIG. AT HYN, NID YW CYNGOR LLYFRAU CYMRU HONNI NAC YN GWARANTU BOD YR WYBODAETH A GEIR DRWY’R WEFAN HON YN GYWIR, YN GYFLAWN NAC YN GYFREDOL.

4 Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu’r wybodaeth a geir ar Y Fasnach Lyfrau Ar-lein gyda phob ewyllys da. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhwysir yr wybodaeth ddiweddaraf ond ni ddelir Cyngor Llyfrau Cymru yn gyfrifol os ceir wedyn fod yr wybodaeth yn anghywir.


5 Ac eithrio fel y datgenir yn benodol ar y wefan, i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Cyngor Llyfrau Cymru, ei aelodau, ei gynrychiolwyr, ei Gyfarwyddwr na’i staff yn gyfrifol am unrhyw iawndal yn deillio o ddefnyddio neu yng nghyswllt defnyddio gwefan Y Fasnach Lyfrau Ar-lein . Y mae hwn yn gyfyngiad cynhwysfawr ar gyfrifoldeb sy’n berthnasol i iawndal o unrhyw fath, heb gyfyngiad, boed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu niwed iddo, a hawliadau trydedd blaid.

Cymorth

Mae'r holl wybodaeth ar y wefan hon ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.