Newyddion

Welsh Books Council

Newyddion

Lansio Hunangofiant Wyn Lodwick

Lansio Hunangofiant Wyn Lodwick - 23 Tach 2009

Roedd y clarinetydd, Wyn Lodwick, yn llofnodi copïau o'i hunangofiant  Wyn a'i Fyd  (Gwasg Carreg Gwalch) yn Llyfrau'r Ddraig, Llanelli nos Fercher 25 Tachwedd.

Lansio Cyfrol Newydd Simon Weston

Lansio Cyfrol Newydd Simon Weston - 20 Tach 2009

Fe wnaeth Simon Weston lofnodi copïau o'i gyfrol newydd i blant  Nelson to the Rescue  (Pont) yn Chepstow Bookshop, Casgwent ddydd Sadwrn 21 Tachwedd.

Derek Brockway ar Daith

Derek Brockway ar Daith - 20 Tach 2009

Bu Derek Brockway yn llofnodi copïau o'i gyfrol newydd i blant  Sblash gyda Fflap a Seren  (Gomer) ddydd Sadwrn 21 Tachwedd yn Hwlffordd, Caerfyrddin a Llanelli

Hunangofiant Arfon Haines Davies

Hunangofiant Arfon Haines Davies - 18 Tach 2009

Cafodd hunangofiant y darlledwr Arfon Haines Davies,  Mab y Mans  (Y Lolfa) ei lansio yn Y Mochyn Du, Caerdydd nos Iau 19 Tachwedd.

Lansiad yng Nghanolfan y Mileniwm

Lansiad yng Nghanolfan y Mileniwm - 17 Tach 2009

Fe wnaeth Gareth Lloyd James lansio'i nofel newydd i blant,  Dirgelwch Gwersyll Caerdydd  (Gwasg Gomer) yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, nos Iau 19 Tachwedd.