» English
Fe'ch gwahoddir i lansiad hunangofiant y pêl-droediwr Malcolm Allen, yng Nghlwb Pêl-droed, Caernarfon nos Wener 20 Tachwedd am 7.30 o'r gloch.
Lansiodd Siân Owen ei chyfrol Mân Esgyrn (Gwasg Gomer) yng Nghaffi'r Llofft Hwyliau, Amlwch, nos Fawrth 10 Tachwedd.
Fe wnaeth yr awdur John Evans lansio'i gyfrol The Acid Real (Underground Press) yng nghlwb Y Bont, Pontypridd, nos Sul 8 Tachwedd.
Mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi lansio cofiant Stuart Cable From Cwmaman to the Stereophonics and Beyond.
Ar drothwy'r gêm fawr rhwng Cymru a Seland Newydd fe wnaeth Gwasg Carreg Gwalch lansio Canu Clod y Campau: Detholiad o Farddoniaeth y Maes Chwarae ar Lwyfan Glanfa, Canolfan Mileniwm Cymru.