Newyddion

Welsh Books Council

Newyddion

Petrograd yw Llyfr y Flwyddyn 2009

Petrograd yw Llyfr y Flwyddyn 2009 - 16 Mehef 2009

Mewn seremoni fawreddog nos Lun 15 Mehefin 2009 yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd cyflwynwyd siec o  £10,000 i’r awdur Wiliam Owen Roberts am ei gyfrol  Petrograd  (Cyhoeddiadau Barddas) a wobrwywyd yn Llyfr y Flwyddyn 2009. Enillydd y wobr Saesneg oedd Deborah Kay Davies am y gyfrol  Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful  (Parthian)

Dala'r Llanw yn Palas Print

Dala'r Llanw yn Palas Print - 15 Mehef 2009

Bu Angharad Price yn holi'r awdur Jon Gower am ei nofel Gymraeg gyntaf,  Dala’r Llanw  (Gwasg Gomer) yn siop Palas Print, Caernarfon Nos Iau, 18 Mehefin 2009.

Lansiadau Parthian

Lansiadau Parthian - 12 Mehef 2009

Lansiwyd  Mrs D'Silva's Detective Instincts and the Shaitan of Calcutta  yng Nghanolfan Rhos-y-gilwen, Sir Benfro nos Wener 12 Mehefin. Trefnwyd lansiadau ychwanegol yn Siop Lyfrau Wellfield Road, Caerdydd, ac yn Llyfrgell Y Barri, Bro Morgannwg.

Codwch eich Het i Fardd Plant Cymru 2009-10

Codwch eich Het i Fardd Plant Cymru 2009-10 - 5 Mehef 2009

Cyhoeddwyd ar faes Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd mai Bardd Plant Cymru 2009-2010 yw Twm Morys o Lanystumdwy.

Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og

Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og - 29 Mai 2009

Enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2009 yw Emily Huws am  Bownsio  (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) a Lleucu Roberts am   Annwyl Smotyn Bach   (Y Lolfa).