Ydych chi’n rhy brysur i eistedd lawr a darllen nofel swmpus, neu efallai yn un sy’n diflasu hanner ffordd drwy lyfr hir? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd codi llyfr a’i ddarllen o gwbl neu heb fentro agor clawr ers blynyddoedd? Eleni mae gan y gyfres Stori Sydyn/Quick Reads rywbeth at ddant pawb wrth i wyth teitl newydd, pedwar yn y Gymraeg a phedwar yn Saesneg, gael eu cyhoeddi i gyd-fynd ag Wythnos Stori Sydyn/ Quick Reads, sydd yn cael ei chynnal rhwng 23 a 28 Chwefror. Gyda phob teitl ar gael am £1.99 yn unig, mae hefyd yn gyfle i gael stori dda am bris da!