» English
Gwlad y gân, rygbi a chynghanedd – anaml iawn mae Cymru’n cael ei gweld fel gwlad ac iddi gymuned fusnes llwyddiannus. Ac eto, ar hyd ac ar led y wlad mae unigolion yn mentro ac yn creu bywoliaeth i’w hunain trwy redeg cwmnïau preifat. Mae Syniad Da, cyfres newydd o lyfrau gan Wasg Carreg Gwalch, yn adrodd storïau busnesau llwyddiannus yng nghefn gwlad Cymru yn y gobaith o gynnig ysbrydoliaeth i entrepreneuriaid y dyfodol.
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og o lwyfan Eisteddfod yr Urdd. Cyflwynir y gwobrau am y llyfrau gorau i blant a phobl ifainc gan Gyngor Llyfrau Cymru. Noddir y gwobrau o £1,000 yr un gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth) a Chyngor Llyfrau Cymru ac fe’u cyflwynwyd i’r awduron mewn seremoni arbennig ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion.
Cyhoeddwyd mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Llannerchaeron, Ceredigion mai Dewi Pws Morris yw Bardd Plant Cymru 2010-11.
Ddydd Mercher, 2 Mehefin, fe wnaeth CAA (Canolfan Astudiaethau Addysg), lansio pedair nofel dditectif newydd sbon ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau cynnar. Bydd Lois Cernyw, un o gyflwynwyr Stwnsh! ar S4C, yn cyflwyno yn y digwyddiad.
Nid nepell o faes Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigon y magwyd yr actor a'r awdur, Meilyr Siôn. Ond parc yn y ddinas nid cefn gwlad Cymru yw cefndir Cyfres Parc Deri ac mae’r ail deitl, Pryderi Mewn Picil, newydd ei gyhoeddi.