» English
Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth nos Sadwrn. Cynhaliwyd cinio'r Gwobrau yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o raglen dathliadau canmlwyddiant y Llyfrgell yng nghwmni Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.
Mae enwau fel Mayfair, Park Lane a Bond Street, ynghyd â nifer o strydoedd eraill Llundain, yn hen gyfarwydd i filoedd o blant ac oedolion sydd wedi mwynhau chwarae'r gêm Monopoly.
Mae fersiwn Cymraeg o'r gêm fwrdd enwog, Monopoly, wedi'i seilio ar rai o brif drefi a dinasoedd Cymru, ar gael yn awr.
Roedd Dwayne Peel yn falch o gael ymuno â'r Cyngor Llyfrau i ddathlu pen blwydd Clwb Llyfrau Sbondonics yn 25 oed. Mae Dwayne yn cofio'n dda am y dyddiau pan oedd yntau'n hogyn ysgol ac yn edrych ymlaen bob tymor at gael llyfrau newydd i'w darllen
Llongyfarchiadau i'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru a Chyfarwyddwr CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ar dderbyn OBE am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith.