Newyddion

Welsh Books Council

Newyddion

Cyflwyniad i'r Cadeirydd - 30 Mehef 2005

Mae Dr Lionel Madden wedi ymddeol o fod yn Gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, a hynny ar ôl naw mlynedd yn y gwaith. Yn ystod y cyfarfod hanner-blynyddol yn Aberystwyth ar 30 Mehefin cafwyd cyfle i ddiolch iddo am ei gyfraniad nodedig dros y blynyddoedd.

Apêl S4C - 16 Mehef 2005

Fel rhan o ymdrech S4C eleni i godi arian tuag at Apêl Asia Affrica 2005, fe ymwelodd y cogydd Dudley Newbery â swyddfeydd y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth.

Cynhadledd Estyn Allan - 27 Ebr 2005

Cynhaliwyd Cynhadledd Estyn Allan yng Nghaerdydd yn ddiweddar, pryd y cafwyd cyfle i glywed am yr holl gynlluniau cyffrous i hybu darllen yn y llyfrgelloedd.

Ymweliad o Udmurt - 6 Ebr 2005

Daeth cynrychiolwyr o dalaith Udmurt yn Rwsia ar ymweliad â’r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth yn ddiweddar, yn cael eu harwain gan Larisa Buranova, y Gweinidog Diwylliant. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig yng ngwaith y Cyngor Llyfrau a hefyd yn y datblygiadau diweddar yn y fasnach lyfrau yng Nghymru.

Arian Cyfalaf - 27 Ion 2005

Wrth ymweld â’r Cyngor Llyfrau yn ddiweddar fe gyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, y byddai’r Cyngor yn derbyn £31,000 o arian cyfalaf ychwanegol eleni. Bydd cyfran o’r arian yn cael ei fuddsoddi ar weinydd newydd i wefan www.gwales.com.