Newyddion

Welsh Books Council

Newyddion

Ymweliad o Udmurt - 6 Ebr 2005

Daeth cynrychiolwyr o dalaith Udmurt yn Rwsia ar ymweliad â’r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth yn ddiweddar, yn cael eu harwain gan Larisa Buranova, y Gweinidog Diwylliant. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig yng ngwaith y Cyngor Llyfrau a hefyd yn y datblygiadau diweddar yn y fasnach lyfrau yng Nghymru.

Arian Cyfalaf - 27 Ion 2005

Wrth ymweld â’r Cyngor Llyfrau yn ddiweddar fe gyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, y byddai’r Cyngor yn derbyn £31,000 o arian cyfalaf ychwanegol eleni. Bydd cyfran o’r arian yn cael ei fuddsoddi ar weinydd newydd i wefan www.gwales.com.

Derbyn Cadair i Gofio Awdur - 27 Hyd 2004

Cyflwynodd teulu'r diweddar Islwyn Ffowc Elis gadair i'r Cyngor Llyfrau – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu sawl un o'i nofelau, gan gynnwys y nofel Cysgod y Cryman. Cyhoeddwyd y nofel honno yn 1953 a chafodd ei dewis yn Llyfr y Ganrif yn 2000.

Ymweliad o Lydaw - 11 Hyd 2004

Bu dirprwyaeth o Lydaw ar ymweliad ag Aberystwyth yn ddiweddar gan gyfarfod cynrychiolwyr o'r Cyngor Llyfrau. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yng ngwaith y Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r diwydiant llyfrau yma yng Nghymru.

Targedu'r Ifanc - 1 Hyd 2004

Yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr fe fydd y Cyngor Llyfrau yn cynnal ymgyrch arbennig i annog pobl ifanc i ddarllen llyfrau Cymraeg. Fe ganolbwyntir yn arbennig ar ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 gan dargedu 44 o ysgolion uwchradd Cymru.