» English
Mae Mrs D’Silva’s Detective Instincts and the Shaitan of Calcutta (Parthian), nofel gyntaf Glen Peters, i'w haddasu ar gyfer y llwyfan mewn partneriaith â chwmni Tin Can o ddinas Kolkata, gyda chymorth y Cyngor Prydeinig.
Am y tro cyntaf erioed eleni mi fydd darllenwyr Cymraeg yn gallu paratoi ar gyfer Cwpan y Byd gyda llyfr gwreiddiol sydd mor ddeniadol ag unrhyw beth a geir yn Saesneg. Cyhoeddwyd Cwpan y Byd 2010 (Gwyn Jenkins) gan Y Lolfa yn yr ŵyl Fedwen Lyfrau ar 1 Mai.
Y cenfigen a’r ffraeo yn dilyn codi fferm wynt yw cefndir nofel Geraint Evans a gyhoeddir gan y Lolfa. Cynhaliwyd lansiad Llafnau nos Iau, 29 Ebrill yn Llety Parc Aberystwyth.
Cynhaliwyd Bedwen Lyfrau 2010, dan nawdd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, yn Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, nos Wener 30 Ebrill a Sadwrn 01 Mai.
Nos Wener 23 Ebrill yn nhafarn yr Eryrod Llanuwchllyn, lansiwyd Y Graig (Y Lolfa), nofel gyntaf yr awdures o Lanuwchllyn, Haf Llewelyn.