» English
Cynhaliwyd Bedwen Lyfrau 2010, dan nawdd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, yn Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, nos Wener 30 Ebrill a Sadwrn 01 Mai.
Nos Wener 23 Ebrill yn nhafarn yr Eryrod Llanuwchllyn, lansiwyd Y Graig (Y Lolfa), nofel gyntaf yr awdures o Lanuwchllyn, Haf Llewelyn.
Mae'r Academi wedi cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.
Cynhaliwyd lansiad Precious Cargo gan Peter Luther, Ddydd Gwener 16 Ebrill yn Waterstone’s Caerdydd ac yna yn Barocco, 12 Stryd Wharton, Caerdydd.
Y ddau lyfr buddugol a ddewiswyd gan ddarllenwyr Glyn-nedd yw Dial M for Merthyr gan Rachel Trezise ac Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Derbyniodd yr awduron eu gwobrau gan y seren leol, Max Boyce, sydd wedi cefnogi'r ymgyrch.