» English
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bod arian ychwanegol wedi’i glustnodi ar gyfer swyddi golygyddion creadigol cyfrwng Cymraeg, fe fydd nifer o swyddi newydd yn y diwydiant cyhoeddi’n cael eu hysbysebu’n fuan.
Nos Fercher 24 Mawrth roedd Angharad Price yn trafod The Life of Rebecca Jones/O! Tyn y Gorchudd (Gwasg Gomer) ym Mhalas Print Pendref, Bangor, yng nghwmni Lloyd Jones.
Cyhoeddwyd rhestr enillwyr Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mhresenoldeb Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.
Cyhoeddodd Greencroft Books, Sir Benfro fod gwerthiant cyfres Angel Mountain, gan yr awdur Brian John, bellach wedi cyrraedd 50,000 o gopïau.
Canolfan Dylan Thomas oedd lleoliad lansiad nofel newydd Stevie Davies, Into Suez (Parthian) nos Fawrth 9 Mawrth.